Psalms 34

Diolch i'r Arglwydd am ei ofal

Salm gan Dafydd. Smaliodd ei fod yn wallgof o flaen y brenin Abimelech. Cafodd ei anfon allan, ac aeth i ffwrdd yn saff. a

1Dw i am ganmol yr Arglwydd bob amser;
a'i foli'n ddi-baid!
2Dw i am frolio'r Arglwydd!
Bydd y rhai sy'n cael eu cam-drin
yn clywed ac yn llawenhau!
3Dewch i ganmol yr Arglwydd gyda mi!
Gadewch i ni ei foli gyda'n gilydd!
4Ro'n i wedi troi at yr Arglwydd am help,
ac atebodd fi.
Achubodd fi o'm holl ofnau.
5Mae'r rhai sy'n troi ato yn wên i gyd;
does dim mymryn o gywilydd ar eu hwynebau.
6Dyma i chi ddyn anghenus wnaeth alw arno,
a dyma'r Arglwydd yn gwrando
ac yn ei achub o'i holl drafferthion.
7Mae angel yr Arglwydd fel byddin
yn amddiffyn
34:7 fel byddin yn amddiffyn Hebraeg, “yn gwersylla o gwmpas”.
y rhai sy'n ei ddilyn yn ffyddlon,
ac mae'n eu hachub nhw.
8Profwch drosoch eich hunain mor dda ydy'r Arglwydd!
Mae'r rhai sy'n troi ato am loches wedi eu bendithio'n fawr!
9Arhoswch yn ffyddlon i'r Arglwydd, chi sydd wedi eich dewis ganddo,
mae gan y rhai sy'n ffyddlon iddo bopeth sydd arnyn nhw ei angen!
10Mae llewod ifanc yn gallu bod heb fwyd ac yn llwgu weithiau,
ond fydd dim angen ar y rhai hynny sy'n troi at yr Arglwydd am help.
11Dewch, blant, gwrandwch arna i.
Dysga i chi beth mae parchu'r Arglwydd yn ei olygu.
12Ydych chi eisiau mwynhau bywyd?
Ydych chi eisiau byw yn hir a bod yn llwyddiannus?
13Rhaid i chi reoli'ch tafod a stopio twyllo!
14Troi cefn ar ddrwg a gwneud beth sy'n dda;
a gwneud eich gorau i gael perthynas dda gyda phawb.
15Mae'r Arglwydd yn gofalu am y rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn,
ac yn gwrando'n astud pan maen nhw'n galw arno.
16Ond mae e yn erbyn y rhai sy'n gwneud drygioni –
bydd yn cael gwared â phob atgof ohonyn nhw o'r ddaear.
17Pan mae'r rhai sy'n byw'n iawn yn gweiddi am help,
mae'r Arglwydd yn gwrando,
ac yn eu hachub nhw o'u holl drafferthion.
18Mae'r Arglwydd yn agos at y rhai sydd wedi torri eu calonnau.
Mae e'n achub y rhai sydd wedi anobeithio.
19Mae'r rhai sy'n byw yn iawn yn wynebu pob math o helyntion,
ond bydd yr Arglwydd yn eu hachub nhw drwy'r cwbl!
20Mae'n amddiffyn eu hesgyrn,
fydd dim un yn cael ei dorri!
21Mae pobl ddrwg yn cael eu dinistrio gan eu drygioni eu hunain.
Bydd y rhai sy'n casáu pobl dduwiol yn cael eu cosbi.
22Ond mae'r rhai sy'n gwasanaethu'r Arglwydd
yn cael mynd yn rhydd!
Fydd y rhai sy'n troi ato fe am loches ddim yn cael eu cosbi!
Copyright information for CYM